Caroline Belasco
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl
Dechreuodd Caroline ym myd y gyfraith, ar ôl ennill gradd yn y gyfraith, cyn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac yna symud ymlaen i yrfa mewn Adnoddau Dynol. Ar ôl gweithio yn y sectorau cyfreithiol, preifat, cyhoeddus ac elusennol, dechreuodd Caroline ei gyrfa ym maes tai yn 2002.
Ar ôl dal swydd Pennaeth AD a Gwasanaethau Corfforaethol, daeth Caroline yn Gyfarwyddwr AD a Datblygu Sefydliadol yn 2013, ac yna'n Gyfarwyddwr Gweithredol yn 2017.
Mae Caroline yn Hwylusydd Rhanbarthol gwirfoddol ar gyfer y CIPD yng Nghymru ac yn Aelod o'r Cyngor Cenedlaethol, yn aelod o grŵp llywio Cyflog Byw ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn aelod o Grŵp Cyflawni Strategol AD Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC). Mae gan Caroline radd Meistr mewn Adnoddau Dynol, MBA ac mae'n hyfforddwr a mentor cymwys. Yn Gymrawd o'r CIPD, yn Gymrawd o'r ILM ac yn aelod o CIH, mae Caroline hefyd yn Gyfarwyddwr Belasco Associates Ltd, ynghyd â'i gŵr, sy'n rhedeg busnes ymgynghoriaeth rheoli masnachol.