Os yw eich atgyweiriad yn argyfwng, ffoniwch bob amser a daliwch y llinell nes bod ateb yn cael ei roi.
Oherwydd nifer uchel o alwadau ar ein llinell atgyweirio, rydym yn annog trigolion i roi gwybod am atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gallwch roi gwybod am atgyweiriadau drwy ffonio, e-bostio neu lenwi'r ffurflen atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys. Mae rhai atgyweiriadau'n cael eu gwneud gan ein tîm atgyweiriadau mewnol ac eraill gan gontractwyr allanol.
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â'r hyn y gallech fod yn gyfrifol amdano, edrychwch ar y cwestiynau cyffredin ar waelod y dudalen hon cyn ffonio.
Ffoniwch: 01792 479200
E-bost: [email protected]
neu defnyddiwch ein ffurflen atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys.
Cyfrifoldebau atgyweirio
Eisiau gwybod pa atgyweiriadau rydych chi'n gyfrifol amdanynt? Dewch o hyd i'n cwestiynau mwyaf cyffredin yma.
Gallwch hefyd lawrlwytho ein dogfen isod.
Gwelliannau Cartref
Os ydych chi eisiau gwneud gwelliant cartref, efallai y bydd angen i chi drafod hyn gyda Beacon yn gyntaf. Llenwch ein ffurflen gwella cartref ac aros i glywed gan un o'n tîm cyn gwneud unrhyw welliant.


