Swydd Wag - Rheolwr Diogelwch Adeiladau (LOLER, Dŵr, Asbestos)

Disgrifiad

Math o Swydd: Parhaol - Llawn Amser
Adran: Cynnal a Chadw
Oriau: 35
Cyflog: £53,262
Lleoliad: Abertawe
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 9fed Tachwedd 2026
Amser Cau: 09:00
Cyswllt: Brett Gilbert - 07484932107

Rydym yn chwilio am Reolwr Diogelwch Adeiladau profiadol i arwain y gwaith o gyflwyno rhaglenni cydymffurfio arbenigol ar draws cartrefi Beacon, gan gynnwys asbestos, hylendid dŵr, LOLER a meysydd diogelwch adeiladu allweddol eraill.

Byddwch yn goruchwylio cydymffurfiaeth statudol, yn rheoli contractwyr arbenigol, yn monitro risg a pherfformiad, yn rheoli cyllidebau ac yn rhoi sicrwydd bod ein gwasanaethau yn cadw preswylwyr a'u cartrefi'n ddiogel. 

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad cryf mewn cydymffurfiaeth statudol a chydymffurfiaeth landlordiaid, gwybodaeth ragorol am asbestos, hylendid dŵr a LOLER, a'r hyder i arwain, dylanwadu a gweithio'n effeithiol gydag amrywiaeth o randdeiliaid.

cyWelsh