Mae ein hailddatblygiad o hen Westy Porthcawl yn cynnwys rhaglen adnewyddu gynhwysfawr gyda rhaglen ddymchwel rhannol, sy'n cynnwys darparu 22 o gartrefi newydd a 2 uned fasnachol. Y contractwr ar gyfer y safle hwn yw Easyliving Ltd. Mae hwn yn brosiect cymhleth sy'n cynnwys ailbwrpasu adeilad amlwg sydd wedi'i leoli mewn ardal gadwraeth.
Mae'r datblygiad wedi'i ariannu'n rhannol gan Raglen Gyfalaf Llety Pontio (TACP) Llywodraeth Cymru a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn Haf 2026.
Gallwch edrych ar y datblygiad hwn sy'n cael ei adeiladu isod: