Nid yn unig y byddwn yn gallu gweithio'n agosach gyda chi i reoli eich contract meddiannaeth presennol, bydd eich hanes blaenorol fel preswylydd yn galluogi Experian i ddefnyddio'r wybodaeth a gyflenwir iddynt i gynorthwyo landlordiaid a sefydliadau eraill i:
- asesu a rheoli unrhyw gontractau meddiannaeth newydd y gallech ymrwymo iddynt;
- asesu eich sefyllfa ariannol er mwyn darparu cynhyrchion a gwasanaethau addas i chi;
- rheoli unrhyw gyfrifon sydd gennych eisoes, er enghraifft adolygu cynhyrchion addas neu addasu eich cynnyrch yng ngoleuni eich amgylchiadau presennol;
- cysylltu â chi mewn perthynas ag unrhyw gyfrifon a allai fod gennych ac adennill dyledion a allai fod yn ddyledus gennych;
- gwirio eich hunaniaeth, oedran a chyfeiriad, er mwyn helpu sefydliadau eraill i wneud penderfyniadau am y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig;
- helpu i atal troseddu, twyll a gwyngalchu arian;
- sgrinio cynigion marchnata i wneud yn siŵr eu bod yn briodol i'ch amgylchiadau;
- i Experian ymgymryd â dadansoddiad ystadegol, dadansoddeg a phroffilio,
- ac i Experian gynnal gweithgareddau profi systemau a chynhyrchion a phrosesu cronfeydd data, megis llwytho data, paru data a chysylltu data.
Os hoffech weld rhagor o wybodaeth am y rhain, ac i ddeall sut mae pob un o'r asiantaethau cyfeirio credyd yn defnyddio ac yn rhannu data rhent fel data biwro (gan gynnwys y buddiannau cyfreithlon y mae pob un yn eu dilyn) darperir yr wybodaeth hon yn y ddolen hon: www.experian.co.uk/crain (Hysbysiad Gwybodaeth Asiantaethau Cyfeirio Credyd (CRAIN)). (Am gopi papur, cysylltwch â ni neu ag Experian gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn y llythyr hwn).
Byddwn yn parhau i gyfnewid gwybodaeth amdanoch chi gydag Experian tra bydd gennych berthynas â ni. Byddwn hefyd yn hysbysu Experian pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben ac os oes gennych ôl-ddyledion rhent heb eu talu, bydd Experian yn cofnodi'r ddyled hon. Bydd Experian yn cadw eich data rhent am y terfynau amser a eglurir yn CRAIN (adran 7). Mae data rhent yn dod o dan y categorïau Dynodwyr (e.e. eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a chyfrif ariannol (e.e. cyfrif tenantiaeth, gwybodaeth am daliadau rhent).
Byddwn ni ac Experian yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn unol â chyfraith diogelu data'r DU, fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol ac na fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion marchnata darpar gwsmeriaid.
Os hoffech gyngor ar sut i wella eich hanes credyd, gallwch gael cyngor annibynnol a diduedd o www.moneyadviceservice.org.uk (gallwch gael copi o'ch Adroddiad Credyd Statudol drwy ymweld â www.experian.co.uk/consumer/statutory-report).
Os ydych chi'n anfodlon ag unrhyw beth sy'n ymwneud â Chyfnewid Rhent, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod. Mae gennych chi hefyd y gallu i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael gan ddefnyddio'r ddolen hon yma: https://ico.org.uk/concerns/.
Lawrlwytho – Y Gyfnewidfa Rhentu – Cwestiynau Cyffredin GDPR


