Luke Takeuchi

Dirprwy Brif Weithredwr

Mae Luke wedi gweithio yn y sector tai ers dros 20 mlynedd o fewn awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr. Cymhwysodd gyda MSc mewn Tai o Brifysgol Caerdydd a dechreuodd ei yrfa fel rheolwr tai dan hyfforddiant. Mae'n aelod Siartredig o'r Sefydliad Tai Siartredig.

Ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio i awdurdodau lleol yng Nghymru, symudodd Luke i Loegr i weithio i Places for People Group, un o landlordiaid tai cymdeithasol mwyaf y DU. Roedd Luke yn gyfrifol am dimau amlswyddogaethol mawr ac arweiniodd brosiectau a gweithrediadau adfywio yn Ne-orllewin a Gogledd-orllewin Lloegr wrth weithio fel y Rheolwr Rhanbarthol.

Yn 2014 dychwelodd Luke i fyw a gweithio yng Nghymru a dechrau ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Tai gyda Chymdeithas Tai Rhondda. Ar ôl 4 blynedd yn y swydd hon, cymerodd Luke rôl y Prif Weithredwr yn 2018 lle mae wedi goruchwylio cyfnod sylweddol o newid. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Luke hefyd wedi dal rolau anweithredol fel Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morganwg ac ar hyn o bryd mae'n aelod o Fwrdd Busnes yn y Gymuned Cymru.

Luke Takeuchi
cyWelsh