Debbie Green

Prif Weithredwr

Graddiodd Debbie mewn hanes o Gaergrawnt a symudodd i Gaerdydd ym 1988, gan ennill ei chymhwyster cyfrifyddiaeth siartredig ym 1991. Ar ôl gweithio yn y sector preifat, cyhoeddus ac elusennol, dechreuodd Debbie ei gyrfa ym maes tai gyda Dewi Sant yn 2005. Yn flaenorol Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp, cymerodd swydd y Prif Weithredwr ym mis Ebrill 2014.

Mae Debbie yn credu mewn gweithio tuag at gymdeithas decach a mwy cyfartal a bod mynediad at gartref fforddiadwy o ansawdd da mewn cymuned gynaliadwy yn rhan allweddol o hyn. Mae hi'n gyn-Gadeirydd Chwarae Teg, yr elusen sy'n gweithio tuag at ddatblygiad economaidd a chydraddoldeb i fenywod yng Nghymru, yn gyn-Gadeirydd Tai Cymunedol Cymru ac yn Ymddiriedolwr yr elusen iechyd meddwl a lles flaenllaw yng Nghymru, Platfform (Gofal gynt). Mae Debbie hefyd yn Aelod Siartredig o'r Sefydliad Tai Siartredig.

Debbie Green
cyWelsh