Bethan Evans

Aelod o'r Bwrdd

Mae Bethan wedi gweithio mewn Llywodraeth Leol, y sectorau Cyhoeddus a Phreifat, gan gefnogi pobl ag anabledd i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd a gwireddu eu dyheadau ers 30 mlynedd.

Am y 17 mlynedd diwethaf, mae hi wedi gweithio ar lefel y Bwrdd Gweithredol, gan arwain sefydliadau a thimau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y person. Er ei bod wedi gweithio'n bennaf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae hi hefyd wedi arwain gwasanaethau o fewn y sectorau tai cymdeithasol a lles-i-waith.

Ar hyn o bryd, Bethan yw Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Cwmni Gofal Cymdeithasol, gan arwain timau sy'n gweithredu Cartrefi Gofal yng Nghymru a Lloegr. Mae hi'n angerddol am gefnogi eraill ac mae ganddi hanes llwyddiannus o arweinyddiaeth effeithiol pobl, rheoli perfformiad a datblygu busnes.

Llun pen Bethan Evans
cyWelsh

Rydym bellach ar gau am ŵyl y banc a byddwn yn dychwelyd i oriau agor arferol ddydd Mawrth 7fed o Ebrill.

Gallwch barhau i roi gwybod am atgyweiriadau brys drwy ffonio 01792 479200.

Gellir rhoi gwybod am atgyweiriadau nad ydynt yn frys ar-lein yma.