Cymorth Ynni
Gyda chostau’n dal i fod yn uchel, rydym i gyd yn cadw llygad llawer agosach ar ein defnydd o ynni. Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch biliau ynni, rydym wedi llunio rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i arbed ynni ac arian.
Cronfeydd caledi
Bydd gan nifer o gwmnïau ynni gronfeydd caledi ar gael i helpu cwsmeriaid sydd wedi mynd i ddyled gyda nhw. Dylech wirio gwefan eich cyflenwr ynni i weld a oes ganddyn nhw gronfa, ac a ydych chi'n gymwys. Isod mae'r dolenni i rai o'r prif gyflenwyr ynni:
Newid darparwyr ynni neu dariffau
Mae ymchwil Ofgem wedi canfod y gall cymharu a newid cyflenwr neu dariff ynni wneud gwahaniaeth mawr i'ch biliau nwy a thrydan. Cyn i chi benderfynu newid, dylech ddechrau trwy wirio pa fath o fesurydd sydd gennych a darganfod a oes gan eich contract 'ffi ymadael' am adael yn gynnar. Fel arfer gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar eich bil, ac edrych ar dariffau eich cyflenwyr presennol i'w cymharu.
Os ydych chi wedi gwneud cais am y Gostyngiad Cartref Cynnes ond heb ei dderbyn eto, bydd yn rhaid i chi wneud cais eto os byddwch chi'n newid cyflenwr – gwiriwch a oes gan eich cyflenwr newydd ofynion cymhwysedd gwahanol cyn cadarnhau unrhyw newid. Gweler isod am nifer o safleoedd newid ynni achrededig Ofgem:
Mesuryddion Clyfar
Os ydych chi eisiau cadw golwg ar ynni eich cartref, mae mesurydd clyfar yn ddyfais ddefnyddiol sy'n eich helpu i gadw cofnod o faint o drydan a/neu nwy mae eich tŷ yn ei ddefnyddio. Mae mesuryddion clyfar yn caniatáu i gwsmeriaid weld faint o ynni maen nhw'n ei ddefnyddio gydag arddangosfa yn y cartref sy'n helpu i gadw golwg ar faint mae gwahanol ddyfeisiau'n ei gostio iddyn nhw tra'n cael eu defnyddio.
Gall defnyddio mesurydd clyfar fod yn ffordd wych o ddeall pa offer sy'n costio mwy i'w rhedeg a'ch galluogi i ystyried a ddylech leihau eu defnydd. Mae mesuryddion clyfar hefyd yn anfon eich data yn gywir at y cyflenwr ynni, sy'n golygu bod biliau'n cael eu cynhyrchu'n gywir yn hytrach nag amcangyfrifon, gan eich galluogi i gyllidebu'n well a pheidio â chael eich taro â bil annisgwyl.
Os ydych chi eisiau gosod mesurydd clyfar, siaradwch â'ch darparwr ynni.
Eisiau mwy o wybodaeth am fesuryddion clyfar?
Pam na ewch draw i MAD Abertawe i weld mythau am fesuryddion clyfar yn ogystal â gwybodaeth am ystod o sesiynau maen nhw'n eu darparu ar gyfer cefnogaeth ac arweiniad ynghylch biliau ynni.
Chwilio am ffyrdd o helpu'r amgylchedd yn ogystal â'ch poced? Mae gennym ni awgrymiadau arbed ynni a all eich helpu i leihau eich defnydd o ynni a dŵr.


