Patrick Hoare
Cadeirydd y Bwrdd
Wedi ymddeol yn ddiweddar o Gymdeithas Adeiladu'r Principality, mae gan Patrick hanes profedig o ddefnyddio methodoleg meddwl systemau sy'n dangos gwelliant mewn gwasanaeth, effeithlonrwydd, costau a morâl ar draws ystod o ddiwydiannau gwasanaeth. Mae ganddo brofiad o weithio gyda brandiau blaenllaw mewn diwydiannau cystadleuol gyda'r prif ffocws ar ragori ar ddisgwyliadau ar gyfer darparu gwasanaeth cwsmeriaid trwy reoli ansawdd craidd.
Rhwng 2009 a 2017, roedd Patrick yn ymgynghorydd llawrydd gyda Vanguard Consulting Limited a oedd yn cynnwys ailgynllunio gwaith ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gweithio gyda saith Cymdeithas Tai wahanol yn y DU ac Iwerddon gan ganolbwyntio ar wella gwasanaethau i breswylwyr. Cyn hyn, treuliodd Patrick 17 mlynedd gyda 'The Halifax' a oedd yn cynnwys cyfnodau fel Rheolwr Canolfan Alwadau a Chyfarwyddwr Gweithrediadau.
Yn un o ddim ond 45 o bobl ledled y byd i gael eu hachredu i ddefnyddio methodoleg Vanguard Consulting Ltd, mae ganddo radd mewn Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Loughborough, mae'n Gadeirydd ei Oergell Gymunedol leol ac mae'n hyfforddi athletwyr ifanc mewn clwb rhedeg yng Nghasnewydd.