Landlord masnachol y gallwch ymddiried ynddo
Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, mae Beacon yn landlord masnachol dibynadwy gyda phortffolio cynyddol sy'n cynnwys siopau, stiwdios, safleoedd trwyddedig, a gofod swyddfa hyblyg.
Ar hyn o bryd rydym yn rheoli 123 o unedau masnachol ar draws Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, a Rhondda Cynon Taf, sy'n cwmpasu mwy na 270,000 troedfedd sgwâr, ac mae ein portffolio yn parhau i ehangu.
Fel arbenigwyr adfywio cydnabyddedig, rydym yn deall y rôl hanfodol y mae busnesau'n ei chwarae wrth greu mannau bywiog a chroesawgar. Rydym yn ymwneud yn weithredol â sawl prosiect datblygu, gan gynnwys cynlluniau yng nghanol dinas Abertawe, Porthcawl a Thonypandy. Mae ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer Stryd Fawr Abertawe yn parhau i fod yn ffocws allweddol, lle rydym eisoes wedi buddsoddi dros £25 miliwn i ddarparu cymysgedd amrywiol o eiddo preswyl a masnachol.


